Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyffredinol ei fod yn nghyfrinach ysbrydion, neu ei fod mewn cyfathrach a Duw neu y duwiau, ac mai drwyddynt hwy a thrwy gyfryngau cyfriniol y cai ei ddysg a'i wybodaeth.

Yr oedd y goel yn dra chyffredinol yn yr oesau gynt mai yn gyfriniol ac yn wyrthiol y cai y proffwyd, y dysgawdwr, y dyn hysbys, y dewin a'r "medicine man" eu gwybodaeth, a rhoddai y ffaith hon yn unig awdurdod i'r wybodaeth a feddent. Nid oedd ameu arni; yr oedd yn berygl ei hameu; ond daeth gormod i ameu, ac yna y dechreuodd profiad gymeryd lle tybio. Yn oesau tyb, tyb oedd y cyfan, ac ai pob tyb arall yn ddystaw yn ngwydd y dyb a wnaed yn iawn-dyb.

Yn ein hoes ni, yr ydym heb ein rhyddhau eto o faglau tybion a dychymygion, pan y meddyliom am dybion y pasiffistiaid, y cydwybodiaid, y Sosialiaid, yr I. W. W., ac eraill o wrthwynebwyr y llywodraeth yn ei hymdrech a Germani a'i hunbendod creulon a digydwybod. Rhagwelai y proffwyd gynt heddwch yn y dyfodol dysglaer, ond heddwch dwyochrog oedd: Y blaidd a drig gyda'r oen; y llo hefyd a chenau y llew; y fuwch hefyd a'r arth a borant yn nghyd; eu llydnod a gydorweddant, a'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp," &c. "Ni ddrygant ac ni ddyfethant," &c.; y blaidd, yr