Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bawb arall. Credai weithiau fod rhai o'i weision am ei wenwyno, ac er na byddent hwy yn meddwl am y fath beth, rhoddai y brenin orchymyn i'w filwyr i'w rhoddi i farwolaeth, yn aml heb iddynt hwy wybod am ba beth. Tybiai weithiau fod ei wragedd yn ceisio am ei fywyd, a dywedir iddo ladd pymtheg-ar-hugain o frenhin- esau. Bryd arall amheuai ei blant, a rhoddodd amryw o honynt i farwolaeth. Bu iddo lawer o feibion, ond gorchymyn- odd eu lladd oll ond dau. Enw y ddau fab a adawyd oedd Ibrahim ac Abdallah. Yr oedd y ddau fab yn rhy ieuanc eto iddo amheu dim drwg am danynt, ac yr oedd y ddau frawd yn hoff iawn o'u gilydd.

Yr oedd gan y brenin yn ei Lŷs feddyg o'r enw Helim. Byddai yn arferiad gan frenhinoedd y gwledydd a'r oesoedd hynny i gadw meddyg yn y Llys. Byddai y