Prawfddarllenwyd y dudalen hon
meddyg yn swyddog uchel a phwysig ym Mhalas y brenin. Rhaid oedd iddo fod yn wr dysgedig, yn deall meddygiaeth, rhinwedd planhigion, arferion anifeiliaid, chwyldroad y sêr, a'u dylanwad a'r ddyn- ion, fel y tybient hwy. Byddai y physig- wr hefyd yn deall dewiniaeth, ac yn gallu gwneud pethau rhyfedd iawn weithiau. Yr oedd y bobl yn anwybodus ac yn barod i gredu pob peth a ddywedai y dewin. Yr oedd y brenin mor anwybodus ac ofer- goelus a'r bobl yn aml, a byddai gan y physigwr fwy o ddylanwad arno na neb arall.
Dyn dysgedig, craff a medrus iawn oedd Helim, ac yr oedd gan y brenin feddwl mawr o hono. Y physigwr oedd yr unig un yn y deyrnas y gallai ymddiried ynddo, ac wrtho ef y dywedai fwyaf o'i feddwl. Yr oedd Helim yn dal amryw swyddau