Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd cant o wylwyr o negroaid cyn ddued a'r drysau, yn gwylio yn barhaus nad elai neb i fewn i'r palas ond y Ceidwaid yn unig. Y palas hwn oedd lle beddrod teulu brenhinol y wlad honno. Byddent yn cymeryd cyrff y teulu brenhinol i'r Palas Du yn ddirgelaidd, a byddai y physigwr yn eu perarogli am hir amser ar ol eu cymeryd i fewn. Pe buasai i'r gwylwyr ollwng rhywun arall i fewn, buasai y brenin yn gorchymyn eu lladd bob un.

Ar ol i Alnareschin ddifa ei feibion oll ond Ibrahim ac Abdallah, yr oedd yn dechreu ofni y gwnai ben am ei deulu ei hun yn llwyr, ac na byddai neb o'r teulu i ddod i'r orsedd ar ol ei farw ef.

Un diwrnod anfonodd genad at Helim yn gorchymyn iddo ddod i'r Llys. Ni wyddai y physigwr pa beth oedd arno eisiau, ac ofnai ei fod yn meddwl rhyw