Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddrwg am dano. Ffarweliodd a'i wraig a chusanodd ei ferch fach, wrth adael ei balas, heb wybod a gaffai efe eu gweled byth wedyn ai peidio. Gwyddai, os oedd y brenin yn ei ddrwgdybio am rywbeth, y byddai wedi ei ddienyddio cyn machlud haul.

Pan gyrhaeddodd Helim balas y brenin, cafodd ef yn eistedd ar ei gader ifori, a'i gleddyf yn ei law, a'i ddagr yn ei wregys, fel y byddai bob amser; am ei fod yn wastad yn ofni fod rhywun yn barod i gymeryd ei fywyd. Ac nid oedd hynny yn rhyfedd pan oedd efe wedi cymeryd cymaint o fywydau yn ddi-achos. Pobl ddrwg bob amser sydd yn credu drwg am bobl eraill, fel y dywed yr hen ddiareb

"Drwg ei hun a dybia arall."

Ni chymerodd Alnareschin sylw o Helim pan ddaeth i fewn. Cafodd y physigwr