Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hamdden i graffu arno ef yn fanwl. Ofnai ei gael yn llidiog, a golwg digofus ar ei wynebpryd, gwyddai y buasai hynny yn golygu angeu i rywun, ac ni wyddai pa mor fuan y deuai ei dro ef ei hun. Ond ymddangosai y brenin mewn pryder a dryswch, ac yr oedd golwg lled bruddaidd ar ei wedd. O'r diwedd trôdd ei olwg a chanfyddodd y physigwr ger ei fron. Archodd iddo ddynesu ato. Daeth yntau, gan gyffwrdd y llawr wrth draed y brenin, a'i dalcen. Cyffyrddodd y brenin ef a'i droed, a gorchymynodd iddo godi ar unwaith, fod ganddo beth pwysig i'w fynegi iddo. Cyfododd Helim ac eisteddodd i wrando y genadwri.

"Helim," meddai y brenin, "yr wyf yn mawr edmygu dy ddoethineb a'th wybodaeth, a dy ddull tawel a dirodres o fyw. Yr wyf yn awr yn mynd i ddangos iti