mor llwyr yr wyf yn ymddiried ynot. Gwyddost nad oes gennyf yn awr ond dau fab, y rhai sydd yn eu babandod. Fy mwriad yw ar iti eu cymeryd adref gyda thi, a'u dwyn i fyny a'u haddysgu fel yr eiddot dy hun. Dysg iddynt ddilyn ffyrdd gwybodaeth, a lladd ynddynt hadau uchelgais. Felly y cedwir yn fyw fy llinach, ac felly y daw fy mhlant i'm gorsedd ar fy ol, heb iddynt ei chwenych tra fyddwyf byw."
"Gair fy arglwydd yw fy neddf," meddai Helim, "a gwneud ei ewyllys yw fy hyfrydwch; angeu yn unig a'm hatal i gario allan ei orchymyn."
Yna cymerodd y physigwr y ddau fab i'w dy ei hun, ac a'u haddysgodd mewn gwybodaeth a rhinwedd. Edrychent hwy arno ef fel eu tad, a mawr hoffent ef; ac yr oedd cariad Helim yn fawr at y ddau lanc. Ymroddodd y ddau gyda'u gwersi