Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes meistroli holl ddoethineb y dwyrain erbyn eu bod yn un-ar-hugain oed. Trigai y ddau mewn hapusrwydd yng nghartref eu hathraw, ac yr oedd eu cariad at eu gilydd mor fawr nes y daeth eu cyfeillgarwch yn ddiareb yn y wlad. Pan sonid am rai yn gyfeillgar, dywedid eu bod "yn gymaint cyfeillion ag Ibrahim ac Abdallah."

Yr oedd i Helim un plentyn, sef merch o'r enw Balsora. Yr oedd Balsora yn nodedig am ei rhinwedd a'i phrydferthwch. Dan ofal ei thad daeth yn hynod, hefyd, am ei dysg a'i gwybodaeth drwy'r holl wlad. Gan fod y ddau dywysog ieuanc fel wedi eu cyfyngu i deulu Helim, ac wedi eu cau allan o Lys eu tad, cyfeillachent lawer gyda'r forwynig brydferth a dysgedig hon, ac ymddiddant lawer am y gwybodaethau a ddysgid i'r tri gan y physigwr.