Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd tuedd naturiol Abdallah yn fwy tyner a charuaidd nag eiddo ei frawd, a daeth ef yn fuan i ymserchu mwy-fwy yng nghwmni Balsora, a theimlai nas gallasai fyw pe gwahanesid ef oddi wrthi. Aeth son am lendid a phrydferthwch y ferch, yn fuan, drwy'r wlad. Clywodd y brenin am dani. Un diwrnod, dan yr esgus o ddod i edrych am ei ddau fab, daeth i balas Helim, a gofynnodd iddo am gael gweled ei ferch.

Cafodd prydferthwch Balsora y fath ddylanwad ar y brenin fel yr anfonodd am Helim i'r Llys, y boreu canlynol. Dywedodd wrtho ei fod yn bwriadu talu iddo am ei garedigrwydd tuagat ei feibion, trwy wneud ei ferch yn frenhines y wlad. Cofiai y physigwr am yr hyn oedd wedi digwydd i'r brenhinesau eraill, oeddynt wedi colli eu bywyd drwy greulondeb Alnareschin,