Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ofnai am gysur a bywyd ei blentyn. "Pell fyddo o feddwl y brenin," meddai, "i ddarostwng urddas yr orsedd drwy ddyrchafu merch ei physigwr i eistedd arni." Ond nid oedd dim a ddywedai yn newid gronyn ar feddwl y brenin. Gorchmynodd ddwyn Balsora i'w bresenoldeb. Pan ddaeth hi ger ei fron a chlywed ei genadwri, yr oedd ei eiriau mor sydyn ac mor ddieithr iddi fel y cwympodd mewn llewyg, megis yn farw wrth ei draed.

Wylai Helim mewn gofid. Ar ol ei dadebru o'r llewyg, dywedodd wrth y brenin fod y newydd yn fwy nag a allai ddal ar unwaith, ac os caniatai y byddai iddo ef ei pharotoi ar gyfer yr anrhydedd a'i harosai. Drwy gydsyniad y brenin cymerwyd hi yn ol i dy ei thad. Ond yr oedd yr ergyd mor drom iddi fel yn fuan iawn yr oedd mewn clefyd poeth.