Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anfonai y brenin swyddogion i holi ei helynt, a hysbysid ef am ei chyflwr peryglus.

Gwaethygai Balsora o ddydd i ddydd, ac er gwaethaf cyffeiriau a medrusrwydd ei thad a gofal pawb am dani yr oedd ei nerth yn pallu yn raddol a phob gobaith am ei hadferiad yn diflannu. Un diwrnod. daeth Helim i bresenoldeb y brenin mewn galar a dywedodd fod ei ferch wedi marw. Ni chymerodd Alnareschin fawr ato am hynny, nid oedd pethau felly yn poeni ond ychydig ar ei galon galed ef, ond dy- wedodd, gan ei bod wedi marw ar ol iddo ef ei chyhoeddi yn frenhines, ei fod yn bwr- iadu iddi yr anrhydedd o gael ei chladdu gyda'r brenhinesau eraill yn y Palas Du.

Buasai yn well gan Helim heb yr anrhydedd hwnnw iddi, ond rhaid oedd ufuddhau i orchymyn y brenin.