Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y cyfamser clafychodd Abdallah, a gwaethygodd mor gyflym fel yr anfonwyd gair at y brenin un diwrnod fod ei adferiad yn amhosibl, ei fod ym mîn marw. Ni effeithiodd hyn ddim ar deimladau y tad creulon, ac ni chymerodd y drafferth i fynd i edrych am dano. Ymhen ychydig ddyddiau anfonwyd at y brenin fod ei fab wedi marw. Cludwyd ef i'r Palas Du yn ddirgelaidd, yn ol defod y wlad, a chladd- wyd ef gyda'i frodyr oeddynt wedi dioddef digofaint creulawn eu tad.

Hir a chwerw a fu galar Ibrahim, a dwys oedd ei hiraeth ar ol ei frawd. Yr oedd cariad y ddau frawd tuag at eu gilydd yn ddwfn ac angherddol, a bu agos i Ibrahim dorri ei galon. Cwynai na chawsai farw yn lle ei frawd, a phryd arall blinai ar y byd a hiraethai am gael marw a mynd at ei frawd i'r gwynfyd yr esgynodd