iddo ar noson y llawn lloer ym mis Tizpa. Teimlai Helim yn fawr drosto, ac yr oedd ei alar yn effeithio rhyw ychydig ar deimlad ei dad er mor ddideimlad ydoedd. Cymerwyd ef i'r Llys ar ol marwolaeth ei frawd, ac ymddygid tuag ato yn dirion a charedig gan bawb, a chymerai ei dad ofalmawr o hono, oblegid efe, bellach, oedd yr unig un o deulu y brenin i feddiannu yr orsedd ar ei ol. Ceisid ei ddifyru â chwareuon ac â gwleddoedd, ond prudd ei ysbryd a thrwm ei galon oedd efe drwy'r cyfan, a threuliai lawer o'i amser yn rhodio drwy'r gerddi wrtho ei hunan. Esgynai weithiau i ben y bryn tu ol i Lys ei dad, a syllai am oriau ar y Palas Du fel pe yn hiraethu am y dydd i fyned iddo. Yr oedd yn fwyn a charedig bob amser, ac yr oedd deiliaid ei dad yn ei hanner addoli, ac yn dyheu am yr amser y ceid un mor