hoff ac anwyl i eistedd ar orsedd y wlad.
Ymhen tua deng mlynedd ar ol claddu Abdallah, bu farw y brenin Alnareschin, ac ychydig o alar a fu ar ei ol, a boddwyd yr ychydig hwnnw yn y llawenydd o ddyrchafu Ibrahim i'r orsedd. Yr oedd efe yn ddyn ieuanc hardd a dysgedig iawn, ac er mor hoff oedd ganddo unigedd a thawelwch, pan ddaeth galwad arno at ei ddyledswydd efe a ymaflodd yn ei waith o ddifrif.
Dechreuodd ei deyrnasiad mewn tiriondeb a haelioni tuag at ei ddeiliaid, ac yr oedd eu cariad hwythau ato yntau, a'u parch iddo yn gymaint ag a fuasai eu hofn a'u harswyd yn amser ei dad. Nid oedd ond un peth yn ol, na buasai y brenin yn berffaith ddedwydd, a hynny oedd absenoldeb ei frawd Abdallah. Cwynai yn fynych na buasai efe yn cael byw i weled teyrnas