Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor ddedwydd ac i gael rhan o honi.

Un diwrnod aeth y brenin ieuanc allan gyda'i swyddogion i hela. Yn ystod y dydd wrth ddilyn ar ol yr helwriaeth gwahanwyd ef oddi wrth y cwmni, a chafodd ei hun yn y prydnawn, yn flin a newynog ar lechwedd mynydd Khakan, a gwelai balas gwych a gerddi blodeuog o'i gylch heb fod ym mhell. Sylwai mor ffrwythlon oedd llechweddau y mynydd, a synnai mor brydferth oedd pob peth o'i gwmpas. Gwyddai mai y physigwr Helim oedd perchennog y mynydd, a bod ganddo balas yno yn rhywle. Daeth at y palas a welai o'i flaen, a thybiai ei fod yn llawer mwy dymunol i fyw ynddo na'r brenhinllys.

Fel y dynesai at borth y palas arafai yn reddfol, gan mor ddymunol oedd arogl y blodau, a'r dyfroedd persawrus a dreiglent drwy y prysgwydd, neu a fedyddient