Prawfddarllenwyd y dudalen hon
gangau y coedydd bythwyrdd lle y pynciai ac y telorai côr yr adar, uwch ei ben. Ocheneidiodd yng nghanol y baradwys. hon, a sibrydodd wrtho ei hun, "O, Abdallah, fy mrawd, nis gall Ibrahim fwynhau y pethau hyn hebot ti! Buasai diffaethwch yn dy gwmni yn well na pharadwys hebot."
Aeth y brenin i fewn i'r palas a gofynnodd am luniaeth. Arweiniwyd ef i ystafell eang a phrydferth, a chyn pen ychydig amser daeth Helim i fewn i'w groesawu. Llonnodd y brenin wrth weled ei hen athraw, a'i gyfaill ffyddlon. Dywedodd y physigwr mai efe oedd piau y palas a bod pob peth oedd ynddo at wasanaeth y brenin. Dygwyd lluniaeth ger eu bron. Canmolai y brenin brydferthwch y lle ac adroddai wrth Helim gymaint ei hiraeth am Abdallah. Dywedai mor dded-