Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wydd fuasai pe buasai ei frawd gydagef yn mwynhau y golygfeydd, ond yn awr fod angeu wedi ei ysbeilio o hanner ei hapusrwydd.

"Onid yw fy arglwydd yn frenin ar yr holl wlad," meddai Helim, "ac onid yw ei holl ddedwyddwch yn eiddo iddo ef ei hun? Onid oes mwy o ddedwyddwch mewn gorsedd gyfan na phe rhennid hi rhwng dau?"

"Na, na," atebai Ibrahim, yn drist, pe buasai Abdallah gyda mi buasai gan bob un o honom ddwy orsedd a dwy goron a phob un yn llawn dedwyddwch, ond nid oes gennyf fi ond un, a honno yn llawn of alar."

"Gŵyr fy arglwydd," meddai y physigwr, "i hir nychdod eich tad gael ei wella yn y mynydd hwn. Credaf fod yn y ty hwn gyffair a iachâ glefyd calon fy arglwydd Ibrahim."