"Gwn am dy fedr fel physigwr," meddai y brenin, "ac am dy ddysg, ond nid oes na dysg na chyffair a wella fy hiraeth am Abdallah, nes y cawn gydgyfarfod a chydfwynhau yr un golygfeydd."
Tra yr oeddynt yn ymddiddan fel hyn daeth dyn ieuanc hardd i fewn i'r ystafell. Syllodd y brenin arno am eiliad, edrychodd yn amheus ar Helim, ac yna ar y dyn ieuanc, a gwaeddodd bron a cholli ei anadl, "Ie, yn wir, fy mrawd, fy anwyl Abdallah!" Rhuthrodd y ddau i freichiau eu gilydd, ac ymgymysgai eu dagrau, dagrau llawenydd, a dagrau hiraeth, am beth amser mewn distawrwydd. Teimlodd y brenin yr hwn oedd yn ei freichiau a chusanodd ef, fel ag i gael sicrwydd nad drychiolaeth ydoedd, edrychodd yn ymofynol at Helim am esboniad, ac heb aros am dano cofleidiodd ef drachefn.