Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gafaelai yn dyn ynddo rhag iddo ddianc oddi arno. "Ie," meddai wrtho ei hun, "efe yw." Yna trodd at Helim, fel un wedi ei syfrdanu, a gofynnodd iddo, "A gaiff efe aros gyda ni mwy?"
"Caiff," meddai yr hen wr, a'r dagrau yn ffrydio ar hyd ei ddwyrudd wrth weled engraifft o gariad mor bur.
"O, gyflawnder fy llawenydd," ocheneidiai y brenin gan arwain ei frawd erbyn ei law i'w sedd.
"Ond," meddai Helim, "nid ydyw fy arglwydd wedi gweled eto ond yr hanner."
"Ah," meddai y brenin, yn dechreu adfeddiannu cyneddfau ei feddwl, "yr wyf yn tybio na buasai Abdallah yn foddlon gadael paradwys heb ddod a Balsora gydag ef.
"Pa le y mae hi? A thrwy ba ddewiniaeth y bu hyn?"