Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ar ol cyrchu a chroesawu Balsora, yr oedd y brenin yn anesmwyth o eisiau cael yr hanes gan Helim, yr hwn a'i hadroddodd iddo i'r perwyl a ganlyn.
Nid oedd yr un o'r ddau wedi marw fel y tybiai y bobl. Pan welodd Helim fwriad Alnareschin eglurodd ei gynllun i Balsora. Yna rhoddodd iddi ddogn o gyffair i beri iddi gysgu am amryw oriau, dywedwyd ei bod wedi marw, a chladdwyd hi yn y Deml Ddu.
Yna clafychodd Abdallah, ac heb esbonio dim iddo rhoddodd y physigwr ddogn o'r cwsgbair iddo yntau, a chladdwyd ef yn yr un lle. Teimlai Helim mai dyna yr unig gynllun a ddiogelai y ddau o ddwylaw y brenin creulon.
Gan fod rhyddid i Helim, ac iddo ef yn unig, i fynd i'r Palas Du, yr oedd efe yno mewn pryd i dderbyn ei ferch pan