Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeffrôdd o'i chwsg. Bu hithau yn gwylio i Abdallah ddeffro. Nid oedd efe yn gwybod dim am gynlluniau Helim, a phan aeth effeithiau y cyffair ymaith, ac iddo ddeffro, a gweled Balsora yn ei wylio, mawr oedd ei syndod, ac nid oedd yn gallu sylweddoli ar unwaith ymha un o'r ddau fyd yr oedd. Tybiai ef pan roed ef i gysgu fod Balsora wedi marw, a meddyliai yn awr mai cyfarfod ei hysbryd ym myd yr ysbrydoedd yr oedd.

Daeth Helim i fewn ac eglurodd iddo yr hyn oedd wedi digwydd, ac ymha le yr ydoedd. Rhaid oedd i'r ddau lechu yn y Palas Du dros amser, nes y ceid rhyw ffordd ddirgelaidd i'w cael allan. Hyn oedd anhawster mawr Helim gan fod cynifer o wylwyr o gwmpas y pyrth. Bu y ddau yn ymguddio yno yn hir ond yr oeddynt yn teimlo yn eithaf hapus gan eu