bod yn fyw, ac nas gallai y brenin gormesol eu gwahanu, er bod ym Mhalas y Meirw. Yr oedd Helim yn mynd i fewn ac allan beunydd dan yr esgus o berarogli y cyrff fel y tybiai y gwylwyr.
Yr oedd traddodiad yn y wlad honno fod ysbrydoedd y teulu brenhinol a gleddid yn y Palas Du, ar y llawn lloer cyntaf ar ol eu claddu, yn dod allan drwy y porth dwyreiniol, yr hwn a elwid porth paradwys, ac yn esgyn i'r gwynfyd. Yn awr, yr oedd nos gyntaf llawn lloer mis Tizpa ger llaw, a meddyliodd Helim am ddefnyddio yr amgylchiad hwnnw i ryddhau y carcharorion. Gwnaeth bob parotoad ar gyfer y noson hon. Gwisgodd ei ferch a'r tywysog ieuanc mewn sidan o liw'r awyr, gyda llaeswisg o lian main, gwynach na'r eira, yn llusgo ar eu holau. Ar ben Abdallah gosododd goron o ddail myrtwydd,