ac ar ael Balsora dododd arland o rosynnau. Peraroglodd eu gwisgoedd gyda pherarogl puraf Arabia.
Ar ol cael pob peth yn barod disgwylient yn bryderus am ymddangosiad y lloer. Pan ddaeth i'r golwg, agorodd "porth paradwys," megis o hono ei hun, yn ol trefniad y physigwr medrus; cerddodd y ferch a'r tywysog ieuanc allan yn araf deg drwy ganol y gwylwyr duon, a chaeodd y porth yn ddistaw o'u hôl. Pan welodd negroaid ddau mor brydferth yn dod allan o'r porth, a'r lleuad lawn yn ariannu eu gwisgoedd heirdd, a'r awyr yn cael ei llanw a'r perarogl swynol a ymledai o'u gwisgoedd, tybiasant ar unwaith mai ysbryd y ddau oedd yno ar eu ffordd i baradwys. Disgynnodd pob gwyliwr ar ei wyneb ar y llawr, ac felly yr arhosasant nes oedd y ddau wedi cilio yn llwyr o'r