Prawfddarllenwyd y dudalen hon
golwg. Dywedasant drannoeth pa beth a welsent, ond edrychai y brenin, a phawb arall, ar hyn fel arwydd o barch ychwanegol i'r teulu brenhinol, ac yr oeddynt wedi clywed chwedlau tebyg, lawer gwaith o'r blaen.
Yr oedd Helim wedi trefnu bod dau asyn yn barod mewn lle neillduol. Yn y lle hwn cyfarfu efe hwynt, ac arweiniodd y ddau i un o'i balasau ef ei hun, yr hwn oedd ar lechwedd mynydd Khakan, bellder mawr o'r lle.
Yr oedd hinsawdd y mynydd hwn mor iachus, fel y daethai Helim â'r brenin yma unwaith i'w adfer o afiechyd maith a blin. Llwyddodd yr ymweliad mor dda fel y rhoddodd y brenin yr holl fynydd, ynghŷd a phalas godidog a gerddi ar ei lechwedd, yn anrheg i'r physigwr. I'r palas hwn y cludodd Helim ei ferch a'r tywysog, ac