Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma y buont yn trigiannu mewn neillduaeth a dedwyddwch am flynyddoedd. Mwynhai y ddau yr addysg werthfawr a gyfrannodd Helim iddynt, a dysgent rywbeth newydd bob dydd. Eisteddai Balsora yn aml ymysg ei morwynion i fwynhau y miwsig mwyaf swynol. Canent donau melus-brudd, ambell waith, am bobl dda y gwroniaid oedd wedi marw: am hen frenhinoedd tirion a thywysogion hael. Pryd arall llenwid y palas a sain cerdd a dawns.

Treuliai Abdallah lawer o'i amser i ddiwyllio y mynydd, a gwnaeth ei holl wyneb fel gardd flodau. Yr oedd Helim yn gofalu na byddai arnynt eisiau dim yn eu neillduaeth, a llwyddai i gadw eu cuddfa yn hollol ddirgelaidd oddi wrth y brenin a'r holl swyddogion, ac hyd yn oed oddi