wrth Ibrahim. Nis gallai ymddiried y gyfrinach hyd yn oed iddo ef.
Gwrandawai y brenin yn syn ar yr hanes, canfyddai graffder a medrusrwydd ei hen athraw, a chydnabyddai ei fod wedi gwneud y peth goreu i sicrhau hoedl a chysuron y ddau, ond nis gallai ymatal rhag rhoi cerydd i Helim am beri cymaint poen iddo, a'i amddifadu o gwmni y fath frawd am cyhyd o amser. Cofleidiodd ei frawd yn serchog a'i wraig, Balsora, a dywedodd wrthi y byddai yn frenhines yn awr mewn gwirionedd, ei fod yn bwriadu rhannu y deyrnas yn ddwy a gwneud ei frawd yn frenin ar y tu dwyreiniol i'r afon. Ond llawer gwell oedd gan y ddau aros yn y lle yr oeddynt mewn heddwch a dedwyddwch. Newidiodd y brenin ei fwriad, caniataodd iddynt aros yn eu palas, a rhoddodd iddynt yn anrheg gymaint o'r