Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlad wastad ag a allent weled o gopal mynydd Khakan. Diwylliodd Abdallah yr holl wlad, plannodd hi â pherllannau, a gerddi, nes ei gwneud y llecyn mwyaf dymunol yn yr holl ymerodraeth, a gelwir y lle hyd heddyw yn "Ardd y Dwyrain."

Bu farw y brenin Ibrahim yn ddi-blant ar ol teyrnasiad maith a dedwydd, a dilynwyd ef ar yr orsedd gan Abdallah, mab Abdallah a Balsora. Hwn oedd y brenin Abdallah a sefydlodd, ar ol hynny, y Llys Ymerodrol ar fynydd Khakan, yr hwn a erys fel hoff drigle brenin y wlad hyd y dydd hwn.