Prawfddarllenwyd y dudalen hon


UA dechreu'r flwyddyn 1816 cychwynodd llong allan o'r wlad hon i lannau gorllewinol Affrig. Ugain mlynedd cyn hynny yr oedd y teithiwr dewr, Mungo Park, wedi bod allan yn chwilio i darddiad a rhediad yr afon Niger; a deng mlynedd yn ddiweddarach collodd ei fywyd, ar ei ail daith, wrth geisio dilyn yr afon honno i'w genau.