Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Nid oedd neb o Ewrop wedi bod yn y parthau hynny o'r blaen, ac ni wyddid ond ychydig iawn yn Lloegr am y wlad a'r bobl. Yr oedd Ewropeaid yn gwybod cryn lawer am lannau y mor, ac yn arfer mynd yno yn eu llongau ers tua phedwar can' mlynedd.
Fel yr oeddynt yn dod i wybod ychwaneg am y wlad, codai awydd ynddynt am wybod mwy, ac yr oedd llawer o bobl ddewr yn mentro i ganol yr anwariaid; deuai rhai yn ol yn fyw, ond fel rheol lleddid hwy gan y bobl neu gan yr hinsawdd.
Pan oedd Mungo Park allan yno cafodd lawer o hanes y wlad a'r bobl, ac yn enwedig cafodd lawer o wybodaeth am yr afon Niger. Gwyddai am enau afon fawr yn mynd i'r mor yn nes i'r de, o'r enw Zaire neu Congo,