Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thybiai ef mai genau yr afon Niger. oedd hwnnw. Yr oedd yn bur awyddus am gael dilyn yr afon i'w genau, er mwyn bod yn sicr ai felly yr oedd. Ar ol cyrraedd yr afon ar ei ail daith, ymhell i fyny yn y wlad, cafodd ef a'i gyfeillion gychod a hwyliasant i lawr ar hyd yr afon, gan ddisgwyl cael dyfod allan i'r mor yn ei genau.

Ni chawsant gyrraedd y mor. Ymosodwyd arnynt gan yr anwariaid, mae'n debyg, yn rhywle ar ei ffordd i lawr; collasant eu bywydau oll, ni ddaeth gair o'u hanes byth mwy, ac nid oes sicrwydd hyd y dydd heddyw ymha le y bu farw Mungo Park a'i gyfeillion gwrol. Ac ni chafwyd allan y pryd hwnnw pa un a oedd y Congo yn enau y Niger ai peidio.