Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dechreu y flwyddyn 1816, fel y dywedasom, anfonwyd llong allan o'r wlad hon i wneud ymchwiliad, ac i fyned mor bell i fyny yr afon Congo ag y gellid. Enw y llong oedd "Congo," a'r llywydd oedd Capten Tuckey, o'r Llynges Brydeinig. Aeth allan gyda'r llong amryw wŷr dysgedig, gyda'r amcan o archwilio y wlad, er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch y trigolion, yr anifeiliaid a chynyrch y tir. Cynwysai y criw, y prif swyddog Fitzmaurice, pedwar o is-swyddogion, a thrigain ond tri o forwyr profedig.
Gyda chogydd y llong, fel cynorthwywr iddo, yr oedd dyn du o'r enw Simmons: dyn ieuanc, dymunol dros ben, diwyd, manwl, ac o dymer naturiol a'i gwnai yn ffafryn gan bawb ar y bwrdd. Yr oedd wedi teithio llawer ac