Prawfddarllenwyd y dudalen hon
wedi gweled cwrs ar y byd, ac yr oedd wedi dysgu rhywbeth ymhob man lle bu. Yr oedd siarad gwahanol ieithoedd mor naturiol iddo ag anadlu, medrai ieithoedd Ewrop, Asia ac Affrig. Arluniai gyda medrusrwydd a chywreinrwydd mawr: meddai lais soniarus a mwyn, a swynai y rhai oedd ar fwrdd y "Congo" yn aml gyda'i ganeuon.
Difyrai y morwyr, a swyddogion y llong, drwy adrodd hanesion am yr hyn. a welsai ac a brofasai ar ei deithiau.. Yr oedd mor fanwl, cyson a diymhon- gar gyda'r chwedlau hyn fel y teimlai pawb wrth eu gwrando mai nid rhig- ymau morwr oedd ei hanesion, ond profiad syml dyn geirwir. Yr oedd mor ufudd a gostyngedig wrth gyflawni ei ddyledswyddau a'r un o'r morwyr, ac eto yr oedd rhyw urddas yn perthyn