Prawfddarllenwyd y dudalen hon
iddo nad oedd neb yn gallu ei esbonio. Er cymaint o chwedlau a adroddai am ei deithiau, ni ddywedai un amser ddim o'i hanes ei hun. Byddai y morwyr yn ei holi, ambell waith, ond oedd Simmons yn dra medrus i droi y stori i ryw gyfeiriad arall, a byddai wedi eu harwain yn ddigon pell oddi wrth y pwnc gyda rhyw chwedl ddifyr, cyn iddynt amgyffred ei fwriad. Yr oll a wyddid o'i hanes ef ar fwrdd y llong oedd fod Syr Home Popham, wedi dod ag ef at Capten Tuckey a gofyn iddo roddi rhyw swydd iddo ar y "Congo" er mwyn iddo gael gweithio ei ffordd allan. Dywedai Syr Home fod iddo berthynasau ar yr afon Zaire a'i fod yn dymuno myned atynt. Rhoddwyd lle iddo gyda'r Cogydd, ond gwelwyd yn fuan nad oedd yr un swydd