Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ar fwrdd y llong nad oedd efe yn berffaith gyfarwydd a hi a galluog i'w chyflawni.
Ar ol mordaith o rywfaint dros dri mis cyrhaeddodd y "Congo" dueddau gorllewin Affrig: ac ar y 30ain o Fehefin, y flwyddyn honno, bwriwyd angor ger Pwynt Malemba ychydig i'r de i Fau Loango. Arosodd y llong yma tuag wythnos, ac aeth y swyddogion i'r lan i brynu bwyd.
Yr Ewropeaid cyntaf i ddod i'r parthau hyn oedd y Portugeaid tua'r flwyddyn 1484. Cawsant yn y wlad liaws mawr o drefi a phentrefi, a'r bobl mor aml a locustiaid. Negroaid oedd y trigolion, gyda gwallt a llygaid duon, ond nid oedd eu trwyn mor llydan, na'u gwefusau mor dewion a rhai o'r llwythau negroaidd. Yr oeddynt yn garedig