Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a hynaws, ond yn falch a dialgar iawn. Credent mewn llawer o dduwiau, a bod un duw mawr yn ben ar y lleill i gyd. Credent mai y duw mawr hwnnw oedd wedi creu eu gwlad hwy, ac mai y mân dduwiau oedd wedi creu pob gwlad arall.

Meddai rhai o'r prif bobl wisgoedd tebyg i eiddo Ewropeaid, ond yr oedd y bobl gyffredin yn fwy na hanner-noethion, pan ymwelwyd a'r lle gan Capten Tuckey. Prif fasnach y lle oedd caethion, a dywedir y byddai yn agos i ugain mil yn cael eu hanfon oddi yno i'r Amerig, bob blwyddyn, cyn i'r wlad hon roi terfyn ar y fasnach greulon honno. Eto cerrid hi ymlaen gan y Spaeniaid a'r Portugeaid, yr adeg honno, a byddai ambell i Brydeiniwr