Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arhosodd y llong wrth un o'r pentrefi ar lan yr afon, ar ei ffordd i fyny, a gwelwyd yno y ddefod o gladdu. Yr oedd y person oedd i gael ei gladdu mewn bwthyn o wiail a chlai, a wnelsid o bwrpas i'w gadw. Yr arferiad oedd cadw y meirw cyhyd ag y gellid heb eu claddu, wedi eu rhwymo mewn bratiau a chadachau. Po mwyaf enwog fyddai y person, hiraf yn y byd y cedwid ef; a byddai swm y carpiau fyddai o'i gwmpas yn anferth erbyn y byddai yn barod i'w roddi yn y bedd.

Yr oedd llu o bobl o gwmpas y lle yn galaru, ac yn gwneud y swn mwyaf anaearol. Torrid y bedd yn hamddenol gan nifer o ddynion, gyda'r arfau mwyaf anghelfydd. Mesurai tua naw troedfedd o ddyfnder, ond dywedai y brodorion y byddai ei ddyfnder gymaint a hyd y