Prawfddarllenwyd y dudalen hon
balmwydden dàlaf cyn y byddai wedi ei orffen.
Ychydig yn nes ymlaen ar eu taith, ar y 25ain o Gorffennaf, arhosodd y llong drachefn wrth bentref o tua chant o aneddau, ar ochr ogleddol yr afon. Yn fuan ar ol i'r llong angori daeth nifer o'r trigolion i lan yr afon, rhai gyda nwyddau i'w gwerthu, a rhai o o gywreinrwydd. Cyn hir gwelent brif swyddog brenin Emboma yn cael ei ddwyn mewn hamog at y lan, ac yn cael ei ddilyn gan lu o swyddogion. Yr oedd y prif swyddog wedi ei addurno yn holl wychder ei swydd a'i sefyllfa, Gwyddai Capten Tuckey yn dda pa beth oedd ei neges. Gofynnid yr un cwestiynau ymhob man yr arhosai: a oedd ef yn dod i gyhoeddi rhyfel, ac os nad oedd, a oedd efe yn dod i fasnachu;