Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ystyr hynny fynychaf oedd, i brynu caethion. Pan geisiai esbonio i'r brodorion nad oedd ei neges na'r naill na'r llall; dim ond dod i archwilio yr afon, nid oeddynt yn gallu deall y fath neges, ac anhawdd oedd eu cael i gredu ei chwedl. Tra yr oedd efe, ar fwrdd y llong yn gosod ei resymau wrth eu gilydd, yr oedd y prif swyddog wedi dod mewn canŵ i ymyl y "Congo," ac yn prysur ddringo gyda chymorth rhai o'r swyddogion, i'r bwrdd ato. Gwnaed sêdd gysurus i'r hen wr, a thaenwyd un o faneri y llong drosti, am nas gellid cael un glustog esmwythach na mwy ei lliwiau ar y pryd.

Dechreuodd prwyad y brenin dywallt ffrydlif o hyawdledd nes hanner foddi clyw y capten, ond gan nad oedd y naill yn deall iaith y llall, yr oedd y