Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwbl yn ofer ar y ddau tu. Pan gafodd Capten Tuckey funud o hamdden, anfonodd un o'r dwylaw i geisio Simmons. i gyfieithu. Daeth y negro ieuanc yno a safodd ger bron y ddau. Edrychodd swyddog y brenin arno yn syn am rai munudau, fel pe yn ei fesur, a'i bwyso, a'i ddarllen. Yna dywedodd rywbeth yn ei iaith ei hun, nad oedd neb ond Simmons yn ei ddeall, a neidiodd oddi ar ei sêdd fel dyn wedi gwallgofi. Anghofiodd ei urddas, ei swydd a'i neges, cofleidiai y dyn ieuanc, ac wylai fel plentyn; wylai y ddau, ac yr oedd pawb o'u cwmpas yn barod i wylo gyda hwynt, er nad oedd swyddogion y llong yn deall ystyr yr hyn a welent.

Gorchmynodd yr hen wr i'w swyddogion gael y cwch yn barod a llusgodd Simmons i lawr iddo gyda'r fath frŷs