Prawfddarllenwyd y dudalen hon
nes yr ofnai y capten am ei ddiogelwch. Aethant i'r lan heb gymaint ag edrych yn ol dodwyd Simmons yn hamog y prif swyddog, a chariwyd ef i'r pentref ar ffrwst. Ar ol iddynt gyrraedd y pentref clywid y cynhwrf a'r twrw mwyaf byddarol. Curid tabyrddau, gollyngid ergydion, a chenid pob offeryn cerdd yn y lle. Cerddai y trigolion yn ol a blaen, a chadwyd y rhialtwch mwyaf soniarus drwy y nos honno.
Casglai Capten Tuckey a'i gydswyddogion fod Simmons wedi dod i blith ei bobl, ond nid oeddynt yn deall y derbyniad mawreddog a roddid iddo. Teimlai pawb erbyn hyn yn awyddus i gael ychwaneg o'i hanes.
Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y swyddog yn ol i orffen y gwaith oedd wedi cael ei ddyrysu mor ddirybudd y diwr-