Prawfddarllenwyd y dudalen hon
nod cynt. Dygid Simmons mewn hamog, yn ochr y prif swyddog, wedi ei wisgo yn niwyg mwyaf mawreddog tywysog Affricanaidd, gyda gosgordd o wyr arfog o'i gylch, a thabyrddau yn cael eu curo o'i flaen.
Pan ddygwyd hwy i fwrdd y "Congo," dechreuodd y swyddogion holi am esboniad. Rhoddwyd ef i'r perwyl canlynol gan yr hen ŵr, ac y mae yn warth bythol ar enw a hanes y cenhedloedd Ewropeaidd a gefnogent gaethwasiaeth, ac yn gywilydd oesol i'r adyn anynol a gyflawnodd y trosedd. Buasai yn anhawdd credu yr hanes oni bai fod swyddog cyfrifol o Lynges Prydain wedi ei gofnodi fel gwirionedd syml.
Pan ddaeth y swyddog i fwrdd y "Congo" i weinyddu ei swydd dros y brenin nid oedd ganddo ddim dirnadaeth