Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y dyn ieuanc yn y llong. Ond pan alwodd y capten arno fel cyfieithydd, canfu yr hen wr ei fab ei hun. Yr oedd y tad yn dywysog o waedoliaeth, yn ben cynghorwr i frenin Emboma, ac yn wr o awdurdod a phwysigrwydd yn y deyrnas.

Yr oedd wedi clywed llawer am allu, dysg, a chyfoeth Prydain. Flynyddoedd cyn y digwyddiad uchod daeth llong of Lerpwl i'r parthau hynny. Gwnaeth y tad gytundeb gyda chapten y llong honno i gymeryd ei fab oedd yn ddeg neu ddeuddeg oed, i Loegr i gael ei addysgu, a rhoddodd swm digonol o nwyddau iddo i ddwyn yr holl draul, gan addaw mwy os byddai raid. Ym- rwymodd y capten i gymeryd gofal y llanc, ei roddi dan addysg yn y wlad hon, a'i ddwyn yn ol yn ddiogel i'w