Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Frawd.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dad ymhen rhyw gymaint o amser. Felly y gollyngwyd y llanc diamddiffyn oddicartref, a'i rieni yn ymddiried yn ffyddlondeb a chywirdeb ei noddwr.

Buwyd am flynyddoedd yn disgwyl y tywysog ieuanc yn ol. Dyfal holid pob. llong o Ewrop a ddeuai i'r gororau, ond i ddim pwrpas. Nid oedd dim o'i hanes i'w gael gan neb, ac yr oedd ei rieni wedi rhoddi heibio bob gobaith am ei weled byth mwy. Nid rhyfedd, felly, fod llawenydd ei dad wedi peri iddo anghofio ei hun ar fwrdd y "Congo." Ond yr oedd rhan fwyaf pruddaidd yr hanes i ddilyn. Ymddengys i'r capten a'i cymerodd ymaith, yn fuan ar ol gadael yr afon, werthu y plentyn yn, gaethwas a chymerwyd ef mewn llong arall, gyda channoedd o negroaid truain i ynysoedd India Orllewinol, bu yno,