Prawfddarllenwyd y dudalen hon
mewn caethiwed, o dan y triniaethau mwyaf creulon, am beth amser, ond drwy ryw ffawd gallodd ddianc o afael ei boenydwyr, i un o longau rhyfel Lloegr. Bu ar y llong honno yn ystod y rhyfel rhwng y wlad hon a Ffrainc. Crwydrodd gyda'r llynges o le i le, cafodd ffafr y swyddogion, a dyrchafwyd ef mor bell ag y gallai negro ddringo. Yr oedd o allu meddyliol cryf a phrofodd ei hun yn swyddog dewr a ffyddlon. Ar ol gorffen o'r rhyfel glaniwyd ef yn Lloegr, a chafodd gyfeillion mwy cywir na'r adyn a'i gwerthodd; cafodd gwrs o addysg cyn troi yn ol i'w wlad, a manteisiodd yn helaeth arno.
Bu Simmons o wasanaeth pellach i gapten y "Congo," yn ei daith i fyny yr afon, fel cyfieithydd, fel cyfaill, ac fel gwr o ddylanwad ac awdurdod