Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ymhlith y brodorion. Pa beth a ddaeth o hono wedyn, nid oes gwybodaeth, bu Capten Tuckey, a bron yr oll o'i swyddogion farw cyn cyrraedd adref o'r daith honno.
Pa ryfedd fod y dyn du yn amheu, yn ofni, ac yn casau y dyn gwyn? Pwy a ŵyr pa faint o niwed a wnaeth yr un weithred dywyllodrus hon, a pha nifer o fywydau diniwed a aberthwyd i gynddaredd anwariaid a ddysgwyd drwy weithredoedd anfad a thywyllodrus fel eiddo y capten uchod, mai creadur perygl, bradwrus, a chreulon yw y dyn gwyn. Y mae Ewropeaid, yn enwedig Prydeinwyr, ac aml Gymro yn eu mysg, wedi gwneud llawer tro caredig â'r dyn du ar ol yr anfadrwydd uchod, ond nid ydym yn sicr nad oes rhai pethau yn cael eu gwneud gan