AT Y DARLLENYDD
RAI blynyddoedd yn ôl bûm yn ysgrifennu ychydig o wahanol nodiadau i'r "Cymro" dan y teitl "Y Fainc 'Sglodion." Y mae "Mainc 'Sglodion" y chwarelwr yn wahanol i "Fainc 'Sglodion " y saer. Cesglir ysglodion y saer a'u bwrw yn y tân, ond ar yr hyn a rydd y chwarelwr ar ei Fainc y dibynna ef ar wneuthur ei gyflog. Wedi llifio'r cerrig ar y bwrdd, fe'u trinir yn glytiau i wahanol faintioli, a gosodir hwynt yn bentwr yn barod i'w hollti. Wedi hollti'r clytiau â chŷn a gordd, gelwir hwynt yn "sglodion" a gosodir hwynt ar fainc yn barod i'w naddu i wahanol faintioli. Ceir rhai mawrion am Princes a Dutches, ac eraill llai yn eu mysg, ond y mae gwerth ym mhob un at wneuthur llechen. Gorau yn y byd i'r chwarelwr ydyw cael digon o 'sglodion da i wneuthur peiliau o lechau.
Cefais brofiad o weithio yn chwarel Oakeley am 53 mlynedd, a chredaf nad oes waith difyrrach i'w gael, er caleted ydyw, na gwaith y chwarelwr, ond iddo gael digon o gerrig da, a phris teg am eu gweithio. Byddai'r chwarelwyr wrthi'n ddiwyd o fore hyd hwyr, ac nid oedd angen cael neb i'w gwylio. Clywais rai o'r tu allan i'r chwarel yn eu condemnio a gweled ynddynt feiau. Anodd cael dosbarth o ddynion caredicach na hwynt. Un peth i synnu ato ydyw bod cyn lleied o weithwyr yn chwarelau Arfon a Meirion wedi eu penodi yn Ustusiaid Heddwch ar hyd y blynyddoedd. Y mae digon o ddynion da yn eu plith a allent gyflawni'r swydd.
Bu cyfnod caled yn hanes y chwarelwyr yn y blynyddoedd gynt, gweithio deng awr yn y dydd am gyflog bach, a gweithio tri a phedwar diwrnod yn yr wythnos. Mewn rhai melinau gwelwyd tua deuddeg ac ychwaneg o "weithwyr wrth y dydd" heb waith ar ddechrau'r mis, ac yn gorfod troi adref.