Byddai rhai am fisoedd yn cerdded o'r naill chwarel i'r llall i chwilio am waith, ond dim i'w gael.
Byddai amryw o'r hen weithwyr yn y blynyddoedd gynt yn cymryd "spri," ac adref am wythnos a rhagor heb weithio. Wedi hynny gweithient fel caethion. Cofiaf adeg pan welai'r meistr bob bai ar y gweithiwr, ac nid oeddynt yn cyfrif dim, yn enwedig rybelwyr. Erbyn heddiw y mae'n wahanol, a mwy o agosrwydd rhwng y meistr a'r gweithiwr.
Tri lle pwysig gan yr hen weithwyr gynt oedd y Cartref, Yr Ysgol Sul, a'r Capel. Yr oeddynt am i'w plant gael Crefydd ac Addysg. Cofgolofnau i'w haberth ydyw'r capelau, a'r ysgolion ardderchog a welir yn ein henfro. Dringodd llawer o blant gweithwyr y fro i safleoedd uchel, mewn byd ac eglwys.
Yn ei awdl ar "Hunanaberth" dywedodd Elfed:
"Llawer bachgen talentog—a ddringodd
I rengau'r bydenwog;
A'r hen bobol wrol lin,
O'u cyni'n gwasgu ceiniog."
Deuai llawer o ddynion o wahanol leoedd i weithio i'r
chwarelau flynyddoedd yn ôl, ac arhosent ar nosweithiau
yr wythnos mewn baricsod, a dychwelent i'w cartrefi ar
brynhawn Sadyrnau.
Yr oedd amryw ohonynt yn ddynion talentog, ac wedi eu diwyllio'u hunain mewn gwahanol feysydd o wybodaeth yn eu horiau hamdden.
Meddylier am y manteision sydd heddiw ar gyfer pobl ifainc, y mae'n berygl i ormod o fanteision droi yn anfantais wedi'r cwbl.
Yr oedd hen Farics Chwarel y Rhosydd yn hysbys i bawb, oherwydd y dynion talentog oedd ynddo. Cynhaliwyd Eisteddfodau gan rai o weithwyr y gwahanol chwarelau yn y blynyddoedd gynt. Bu bri mawr ar Eisteddfod y Rhosydd, a Chwmorthin, a Holland, a'r Llechwedd ac eraill.