Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Fainc Sglodion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

STRAEON Y CHWAREL

DAU bartner yn y chwarel oedd R.W. a R.J., a dau o rai diwyd gyda'u gwaith. Rhedent ar ei hôl hi (yn ôl term y chwarel) o fore tan nos.

Rhyw fore oer wrth dynnu clytiau oddi ar y bwrdd llifio aeth troed R.W. i olwyn oedd ar ochor y bwrdd. Yr oedd yn sownd yno, a methai â symud dim. Gwaeddodd ar R.J. ei bartner (oedd wrthi yn naddu 'sglodion yn yr injian naddu ar y pryd), "Tyrd yma Bob, i dynnu 'nhroed i yn rhydd o'r olwyn yma." "Aros imi naddu'r Princen yma," meddai yntau.

DYN cryf, glandeg, o bersonoliaeth hardd oedd R. Carai enwad y Bedyddwyr â chariad angerddol. Clywsom ef yn adrodd darnau o bregethau enwogion yr enwad. Arferai "ymaflyd codwm" beunydd â rhywun a ymddiddorai yn y gwaith hwnnw, a gwnâi llawer yn y blynyddoedd gynt. Yr oedd ganddo freichiau cryfion, a dau ddwrn fel pennau morthwylion. Dywedodd ei hanes wrthym un tro ar bonc y chwarel. Bu ar neges yn Lerpwl yn gweld rhyw feddyg, ac wrth ddychwelyd adref yn ôl cerddai yn ôl a blaen ar blatfform stesion Lime Street. Daeth rhyw lencyn mawr o Sais ato gan gau ei ddyrnau o flaen ei wyneb, ac ymgasglai'r bobl o'i gwmpas, ond gadawodd iddo. Ymhen tipyn fe drawodd R.J. yn ei wyneb. "Wedi hynny," meddai'r hen Gymro, "mi gofiais am steil Tom Sayers, ac fe'i trewais gyda'm dwrn nes oedd yn llyfu oddi ar y platfform ar ganol y lein!"

WRTH gofio am R.J. a'r Sais, cofiais am hanes y Parch. Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynnon yn curo rhyw Sais yn Llundain. Dyma'r hanes allan o'i Hunangofiant difyr, tudalen 22. Cafodd waith yn Llundain mewn gwaith

sebon. "Yr oedd dyn ieuanc o Sais, yr hwn a wasanaethai mewn tafarn, ag a fyddai yn arfer dwyn 'porter'