i'r lle, wedi cymryd yn ei ben i brofocio'r Cymry, ac yn arbennig fy hunan, am fy mod yn newydd-ddyfodiad yno, ac heb fawr o Saesneg ac yr ieuengaf yn y lle. Bydd- ai yn gweiddi 'Nannygoat' a 'Ba' arnom bob tro y deuai atom.
Un tro darfu i'r 'foreman' ei daro yn ei gefn â darn o sebon meddal, a dweud mai fi a wnaeth hynny. Yn y fan tynnodd amdano i'm curo, gan ei fod yn gwffiwr proffesedig yn 'prize fighter,' ond y canlyniad fu imi ei guro fel y bu am bythefnos yn ei wely heb weled yr un golwg. Cytunodd yr holl weithwyr i gael galwyn o whisci er fy anrhydeddu am fy ngwaith, er fy mod yn hollol wrthwynebol i'r peth. Rhaid oedd cydsynio."
GŴR gweddw wyneblwyd tenau oedd J., a chadwai ei ferch gartref glân a chysurus iddo. Meddai ar gorff ystwyth, a gallai wneuthur llawer o gampau, cystal ag unrhyw ddyn mewn siou. Arferai ar brynhawniau Sadwrn fynd am ychydig ddiod i dafarnau'r dref,—"dim ond gwlychu ei big," chwedl yntau. Cafodd Jac Dô yn anrheg gan gydweithiwr, a gwnâi yntau lawer o driciau. Ehedai ar ei ysgwydd pan ddeuai adref o'r chwarel. Un Sadwrn tâl yn y chwarel, cafodd J. dâl reit dda, a chelciodd bunt felen ac arian gwynion. Rhoddodd hwynt yn y pridd yn yr ardd flodau oedd ganddo yn ffrynt ei dŷ, ac aeth am ginio. Wedi hynny newidiodd ei ddillad gwaith gan fwriadu cael sbri drwy'r prynhawn. Aeth ei ferch allan o'r tŷ a gwelodd y Jac Dô yn chwarae efo'r arian, a llwyddodd i'w cael oddi arno. Ymhen spel aeth ei thad i chwilio amdanynt, ond nid oedd dim hanes ohonynt. Cafodd fraw a'r siomiant mwyaf a gafodd erioed. Y ddedfryd a basiodd ar y Jac Dô oedd, "To be hanged by the neck."
CWYNAI gweithwyr ar bonc neilltuol yn y chwarel fod yn
anodd gwthio llwythi o rwbel, am fod y ffordd eisiau cael