DRO arall dywedodd yr un swyddog wrtho, "Wel, un gwirion wyt ti, Dafydd," ac atebodd y labrwr ar ei union, "Peth rhyfedd fod pob Dafydd yr un fath, yntê?" Dafydd oedd enw y swyddog.
AETH D. i offis y chwarel tuag un ar ddeg un bore. Yr oedd ganddo fusnes neilltuol gyda'r prif oruchwyliwr, ond dywedodd hwnnw wrtho, "Y mae gennyf eisiau bwyta fy nghinio rŵan!" Aeth D. ymaith oddi wrtho. Ymhen pythefnos yr oedd y swyddog yn dyfod yn brysur ar y bonc ar fin adeg cinio. Dywedodd wrth D., "Cer i nôl y ceffyl i'r stabal i dynnu'r wagenni yma i'r pass by." Aeth yntau yn hamddenol a daeth yn ôl ei hun. "P'le mae'r ceffyl?" meddai'r swyddog. "Y mae eisiau bwyta," meddai D.
LLANC cryf rhadlon braf oedd Bob, a gweithiai fel labrwr yn chwarel y Rhosydd. Gwisgai wasgod las a botymau gwynion arni, ac arnynt yr oedd y llythrennau "L. & N. W."
Gofynnodd y prif oruchwyliwr iddo, "Pa beth a arwydda y llythrennau yna ar fotymau dy wasgod?" "O," meddai yntau dan wenu, "Labour And No Wages." Ymhen yr wythnos daliodd y prif oruchwyliwr y gweithiwr wedi crwydro oddi wrth ei waith, a dywedodd wrtho, "Beth oeddet ti yn dweud mai Labour And No Wages a arwyddai'r llythrennau ar fotymau dy wasgod? Credaf fi yn onest mai Labour And No Work' ydynt!"
CLIRIO rwbel bras ym Melin Cwmorthin oedd gwaith Edward, ac un diwyd ydoedd hefyd. Nid aethai byth adref a gadael llwyth ar ganol ei lwytho. Wrth ei weld yn gweithio mor galed dywedodd y prif oruchwyliwr wrtho, "Yr wyf am roddi mwy o gyflog nag wyt yn gael Edward." "Wyddoch chwi beth, Mr. Roberts," meddai yntau, "buasai'n well gennyf o lawer gael mwy o wagenni gennych."